Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

21 Tachwedd 2016

SL(5)025 – Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol a Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“y Rheoliadau GOC”), Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau’r Rhestr Atodol”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Ffioedd”).

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau GOC yn ymwneud â’r telerau i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, gan gynnwys y rhestr o bersonau sy’n darparu gwasanaethau o’r fath.

Bydd y diwygiadau i’r Rheoliadau GOC:

-        Yn cael gwared ar y gofyniad i’r optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig hysbysu meddyg claf am ganlyniadau prawf golwg ar glaf sydd wedi cael diagnosis diabetes neu glawcoma.

-        Yn gosod darpariaeth newydd sy’n caniatáu hawlio electronig ar gyfer taliadau.

-        Yn caniatáu i’r Byrddau Iechyd Lleol (BILl) dynnu optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig oddi ar y rhestr offthalmig os nad yw wedi darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn y 12 mis blaenorol yn hytrach na’r chwe mis blaenorol.

-        Yn rhoi’r dewis i BILlau ynghylch a ydynt yn gwrthod cynnwys optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig ar eu rhestrau neu’n tynnu optegydd/ ymarferydd meddygol offthalmig oddi ar eu rhestrau offthalmig os y’i ceir yn euog o unrhyw drosedd (heblaw am lofruddiaeth) ac y caiff ei ddedfrydu i gyfnod o garchar (wedi’i ohirio neu beidio) o fwy na 6 mis; a chaniatáu’r hawl i apelio os bydd y BILl yn gwrthod cynnwys optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig ar ei restr offthalmig.

Bydd diwygiadau i’r Rheoliadau GOC a Rhestrau Atodol:

-        Yn caniatáu i BILl dynnu optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig oddi ar y rhestr atodol os nad yw wedi cynorthwyo â gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn y 12 mis blaenorol yn hytrach na’r chwe mis blaenorol.

-        Yn rhoi’r dewis i BILlau ynghylch a ydynt yn gwrthod cynnwys optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig ar eu rhestrau neu’n tynnu optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig oddi ar eu rhestrau offthalmig os y’i ceir yn euog o unrhyw drosedd (heblaw am lofruddiaeth) ac y caiff ei ddedfrydu i gyfnod o garchar (wedi’i ohirio neu beidio) o fwy na chwe mis; a chaniatáu’r hawl i apelio os bydd y BILl yn gwrthod cynnwys optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig ar ei restr offthalmig.

Nid yw’r ddarpariaeth bresennol drwy’r Rheoliadau Ffioedd yn caniatáu i optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig ddarparu ac ardystio taleb o dan Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol i glaf mewn perthynas â sbectol lle mae angen gweithgynhyrchu’r ffrâm yn arbennig oherwydd nodweddion wyneb y claf; rhaid i’r claf fynd i’r Ysbyty Llygaid er mwyn cael y daleb hon. Bydd y diwygiad hwn yn caniatáu i optegydd/ymarferydd meddygol offthalmig roi taleb yn yr amgylchiadau hyn.

Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau hyn yn darparu mai dim ond i blant dan 7 oed y gellir darparu fframiau bach; gallai hyn roi unigolion dros 7 oed sydd angen fframiau bach am resymau clinigol o dan anfantais. Bydd y diwygiad arfaethedig yn dileu’r cyfyngiad hwn.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 [Saesneg yn unig]

Fe’u gwnaed ar: 1 Tachwedd 2016

Fe'u gosodwyd ar:3 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 1 Rhagfyr 2016

SL(5)026 – Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2016 i 11 Medi 2017 at ddibenion penodol.

 

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” at ddibenion cyfraith olyniaeth (h.y olyniaeth tenantiaethau amaethyddol penodol).

Deddf Wreiddiol: Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 [Saesneg yn unig]

Fe’i gwnaed ar: 9 Tachwedd 2016

Fe'i gosodwyd ar:10 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 2 Rhagfyr 2016

SL(5)027 – Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r symiau uchaf ac isaf o daliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 i’r rheini sy’n meddu annedd sydd â buddiant perchennog. Maent hefyd yn cynyddu swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Iawndal Tir 1973

Fe’u gwnaed ar: 7 Tachwedd 2016

Fe'u gosodwyd ar:11 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 5 Rhagfyr 2016

SL(5)028 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1701 (Cy. 163)) (“Gorchymyn 2006”).

Mae'n darparu ar gyfer cynnydd o 10.7% yn y ffioedd a bennir yng Ngorchymyn 2006 ar gyfer gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau (erthygl 2(2)) a gwasanaethau cyn-allforio (erthygl 2(3)).

Mae'r lefelau ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn yn ffurfio'r drydedd ran a'r rhan olaf o symudiad tuag at adennill cost lawn ffioedd.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 [Saesneg yn unig]

Fe’i gwnaed ar: 9 Tachwedd 2016

Fe'i gosodwyd ar:14 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 7 Rhagfyr 2016

SL(5)029 – Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn ychwanegu categorïau ychwanegol o bersonau i’r Tabl yn yr Atodlen honno sydd yn gorfod cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. 

Mae’r Gorchymyn yn darparu na chaiff person ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid (h.y. gweithio fel gweithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid) i awdurdod lleol, sefydliad addysg bellach, corff llywodraethu ysgol neu gorff gwirfoddol, nac ar eu rhan, oni bai ei fod wedi’i gofrestru o fewn y categori perthnasol.

Gwna’r Gorchymyn ddarpariaeth debyg ynghylch ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.  Ni chaiff ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ddarparu gwasanaethau ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith i gorff dysgu seiliedig ar waith, nac ar ei ran, oni bai ei fod wedi’i gofrestru o fewn y categori o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Deddf Wreiddiol: Deddf Addysg (Cymru) 2014

Fe’i gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe'i gosodwyd ar:2 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: Yn unol ag Erthygl 1(2)